Mae'r gronfa hon ar gyfer
Mae'r gronfa hon yn darparu cymorth ar gyfer cwmnïau adeiladu micro a bach i ddarparu sylfaen sgiliau gryfach. Yn benodol, mae'n darparu cymhelliant ychwanegol i chi gael mynediad at hyfforddiant sy'n gymwys am grant CITB.
Pwy sy'n gallu gwneud cais am gyllid
Cyflogwyr sydd wedi'u cofrestru gyda CITB sydd â hyd at 99 o staff a gyflogir yn uniongyrchol ar y gyflogres. Gall cyflogwyr wneud cais am gyllid unwaith bob 12 mis.
Faint y gallwch chi wneud cais amdano
Gall cyflogwyr cofrestredig â CITB wneud cais am gyllid sy'n gysylltiedig â faint o weithwyr uniongyrchol sydd ganddynt:
- Gall cyflogwyr ag 1 - 49 o staff a gyflogir yn uniongyrchol dderbyn hyd at £5,000.
-
Gall cyflogwyr â rhwng 50 a 74 o staff a gyflogir yn uniongyrchol dderbyn hyd at £7,500.
-
Gall cyflogwyr â rhwng rhwng 75 a 99 o staff a gyflogir yn uniongyrchol dderbyn hyd at £10,000.
Sut i gyflwyno cais
Cyn i chi wneud cais, darllenwch y Telerau cyllido ar gyfer y gronfa Sgiliau a Hyfforddiant
I wneud cais am gyllid, dilynwch y nodiadau cyfarwyddyd a ddarperir yn y ffurflen gais Sgiliau a Hyfforddiant (PDF 261KB).
I gwblhau a chyflwyno'r ffurflen, dylech:
- Lawrlwytho'r ffurflen gais a'i chadw ar eich cufrifiadur
- Llenwi pob maes
- Sicrhau eich bod yn cadw'r cais hwn yn rheolaidd ar eich bwrdd gwaith er mwyn atal data rhag cael ei golli
- Cadw ac anfon y ffurflen wedi'i chwblhau at skills.training@citb.co.uk