Mae diwylliant lle caiff sgiliau ac ymddygiad arwain a rheoli da eu defnyddio a'u datblygu yn amhrisiadwy.
Mae'n esgor ar lawer o fuddiannau ac mae'n allweddol er mwyn cynyddu ymrwymiad a chymhelliant cyflogwyr a gall arwain at weithlu sydd â mwy o ffocws ac sy'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
Mae cael eich staff i wneud eu gorau glas yn hanfodol i'ch busnes ac mae'n effeithio ar feysydd sylfaenol, gan gynnwys:
- boddhad cleientiaid
- enw da am waith o safon
- cynhyrchiant
- arbedion effeithlonrwydd o ran diogelwch, lleihau gwastraff a chynaliadwyedd.
Yn y pen draw, mae'n effeithio ar eich elw.
Cyrsiau Hyfforddi
Mae CITB yn cynnig amrywiaeth o atebion hyfforddi i oruchwylwyr a rheolwyr. Gan ganolbwyntio ar sgiliau technegol a meddal, maent wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer anghenion y diwydiant adeiladu.
Maent yn cynnwys cyrsiau nad ydynt wedi'u hachredu neu rai eraill sy'n arwain at gymhwyster fel NVQ neu gymhwyster Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM).
Mae'n esgor ar lawer o fuddiannau ac mae'n allweddol i gynyddu ymrwymiad a chymhelliant cyflogeion a gall arwain at weithlu â mwy o ffocws ac sy'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
Mae cael eich staff i wneud eu gorau glas yn hanfodol i'ch busnes ac mae'n effeithio ar feysydd sylfaenol, gan gynnwys:
- boddhad cleientiaid
- enw da am waith o safon
- cynhyrchiant
- arbedion effeithlonrwydd o ran diogelwch, lleihau gwastraff a chynaliadwyedd.
Yn y pen draw mae'n effeithio ar eich elw.
Arian Grant
Mae arian grant ar gael gan CITB.
Gellir cael manylion llawn Cynllun Grantiau 2012/2013 yn ein hadran Lefi a Grant.